Ym mis Ebrill 2023, helpodd myfyrwyr yn Ysgol Iau Chetwynd yn Nuneaton eu hysgol i ddod yr ysgol gyntaf yn y DU i dderbyn tystysgrif lefel Aur Cyfeillgar i’r Rheilffyrdd. Yn ogystal â gwylio’r darllediadau diogelwch rheilffyrdd ar Learn Live yn yr ysgol a’u rhannu gyda rhieni, bu’r myfyrwyr CA2 i gyd yn creu posteri i hyrwyddo peryglon camu ar y traciau.
Yna dyfarnwyd gwobrau i’r posteri buddugol gan Faer a Maeres Nuneaton gyda’r Pennaeth yn derbyn tystysgrif lefel Aur yr ysgol.